Croeso!
Rydym yn Gapel Cristnogol wedi ei sefydlu ar Ynys Môn, sy'n ceisio dilyn dysgeidiaeth Iesu Grist, rhannu bywyd gyda'n gilydd a gwasanaethu cymunedau ein ynys.
Dim Cyfarfod Sul Yma
Does dim cyfarfod Dydd Sul yma gan ei bod hi’n benwythnos Capel ar Wasgar. Mi fydden ni’n cyfarfod mewn grwpiau gwahanol ar draws yr ynys i gynnal gweithgareddau gwahanol a rhannu’r newyddion da am Iesu.
ALPHA
Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi bod cwrs Alpha newydd yn dechrau ar yr 22ain o Fedi!
Os ydych chi'n gofyn cwestiynau mawr bywyd neu'n chwilfrydig i ddysgu am sylfaeni Cristnogaeth, dyma'r cwrs i chi!
Sganiwch y cod QR i gofrestru neu ewch i'n tudalen Grŵpiau Bach i gael gwybod mwy.Rhythm Misol Newydd
Rydym yn cychwyn rhythm newydd fel eglwys. Bob wythnos mi fydd rhywbeth gwahanol ymlaen - mi fydd hysbyseb ar gyfer y misoedd pan fydd 5 dydd Sul mewn mis fel bo chi’n methu dim.
Wythnos 1 - Cyfarfod Pob oed
Wythnos 2 - Cyfarfod ac Ysgol Sul
Wythnos 3 - Cyfarfod ac Ysgol Sul
Wythnos 4 - Capel ar Wasgar
Ewch i’r dudalen Cyfarfod Dydd Sul i ddarganfod mwy o wybodaeth.
Rydym ni’n nol Dydd Sul yma (Mehefin yr 7fed) efo Cyfarfod Pob Oed!
Dydd Sul efo Goleudy
Cyfarfodydd Dydd Sul
Mae dydd Sul yn wych! Cyfle i ymgynnull a’n gilydd. Cychwyn am 10.30yb yng Neuadd y Dref Llangefni, allwch hefyd ddal i fyny drwy wrando ar YouTube.
Ysgol Sul
Mae gennym ni dri grŵp plant yn ystod y cyfarfod ar y Ddydd Sul; Sparcs, Tanio a Fflam.
Straeon Fydd Môn
Cyfres o ffilmiau byr o bobl bob dydd yn byw bywydau llawn gobaith ers dod o hyd i Iesu.
Diweddaraf
Grwpiau Bach
Mae grwpiau bach yn lleoedd i gael eu hadnabod, i dyfu ac i gael eu gwreiddio! Maent yn digwydd mewn gwahanol fannau ac amseroedd yn ystod yr wythnos.
Pelydra Bach
Rydym yn cynnal grŵp Babanod a Phlant Bach ar brynhawn Mawrth yn Gaerwen. Mae'n ffordd wych o gwrdd â rhieni a gwarcheidwaid eraill yn yr ardal.
Clwb Cinio
Mae Clwb Cinio yn brosiect rydyn ni'n ei redeg yn ystod gwyliau'r ysgol, darparu prydau bwyd a gweithgareddau i deuluoedd.
YouTube Goleudy
Dal i fyny ar ein sgyrsiau Cyfarfod y Sul, gwrando ar restrau chwarae addoli a chael cipolwg ar fywyd yn y gymuned.