Cyfarfodydd Dydd Sul
Ar hyn o bryd rydym yn cyfarfod 3 dydd Sul y mis yn Neuadd y Dref Llangefni. Mae ein cyfarfodydd yn dechrau am 10.30yb ac yn gorffen tua 12yp. Credwn y dylai pawb fwynhau'r Eglwys, yn enwedig ein plant! Felly, mae Ysgol Sul yn ystod y cyfarfod yn darparu lle hwyliog i blant ei fwynhau ac i ddysgu, tra'n rhoi cyfle i'r rhieni gymryd rhan lawnach yn y cyfarfod.
Rhythm Misol Newydd
Rydym yn cychwyn rhythm newydd fel eglwys. Bob wythnos mi fydd rhywbeth gwahanol ymlaen - mi fydd hysbyseb ar gyfer y misoedd pan fydd 5 dydd Sul mewn mis fel bo chi’n methu dim.
Wythnos 1 - Cyfarfod Pob Oed
Mae croeso i pawb yn ein cyfarfod pob oed! Mae rhywbeth i bawb, dim bwys pa oedran ydech chi - mi fydd plant yn aros efo ni drwy’r cyfarfod.
Yn y nos mi fydd Ymryson neu Codi Mawl ymlaen - llefydd i addoli a pwyso mewn i geisio Duw am symudiad yn ein cymunedau lleol.
Wythnos 2 & 3 - Cyfarfod ac Ysgol Sul
Cyfarfod Dydd Sul efo’n 3 grwp Ysgol Sul yn rhedeg - Sparcs Creche, Tanio a Fflam.
Wythnos 4 - Capel ar Wasgar
Mae’r capel yn mynd tu hwnt i’r waliau! Cyfle i gymeryd yr efengyl ar draws yr ynys drwy gasglu efo’n gilydd drwy chwaraeon, byd natur, garddio, pobi... gyda ffocws or weddi neu’r gair.
Os ydych yn ymweld ar Sul Grwp Bach mae’n ddrwg gennym ni eich methu. Rydym yn gobeithio y byddech yn medru ymuno a chapel lleol arall i gyfarfod a nhw a’n gobeithio’ch gweld chi y tro nesaf yr ydech chi o gwmpas.
Cyfarfodydd Dydd Sul
Rydyn ni'n ymgynnull ar y Sul i gyfarfod a Duw, i ddysgu sut i'w ddilyn, dyfnhau ein fydd a cael ein trawsnewid i ddod y bobol y creodd ni i fod.
Ymunwch â ni bob dydd Sul o 10.30yb (10.15yb am luniaeth) ar gyfer addoli, dysgu, gweddi, ac Ysgol Sul.
Rydym yn cyfarfod yn Neuadd y Dref Llangefni, LL77 7LR.
Byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi yno!
Goleudy Ar-Lein
Rydym eisiau Goleudy fod mor hygyrch â phosibl. Felly, rydym yn uclwytho’r sgwrs o'n cyfarfod bob dydd Llun ar YouTube.
Felly, os ydych chi wedi colli wythnos, neu eisiau gwarndo cyn mynychu cyn i chi ddod am y tro cyntaf, mae hynny'n bosibl.
Mae gennym hefyd ganeuon addoli ar ein sianel yn yn ogystal a rhestr chware o ganeuon rydym yn eu canu’n aml neu sydd yn annogaeth yn eich bywyd o ddydd i ddydd.