Tîm Arwain
Alan Radbourne
Symudodd Alan i Ynys Môn yn 2017 gyda’i wraig Rachel a’u mab Caleb, i gychwyn Capel Goleudy. Fe gawson nhw’u danfon gan Eglwys Open Heaven yn Loughborough i blannu cymuned newydd yma ym mhrydferthwch Ynys Môn. Ym mis Rhagfyr 2017, dechreuodd Capel Goleudy gyfarfod o amgylch bwrdd y gegin ar aelwyd Alan a Rachel.
Rachel Radbourne
Mae Rachel wastad wedi teimlo galwad i ogledd Cymru, gan mai yma y cafodd ei magu a mae wir yn caru’r ardal. Ar ôl astudio yn Mhrifysgol Loughborough, cyfarfod ag Alan a geni eu plentyn cyntaf, symudon nhw i Ynys Môn i blannu eglwys ac adeiladu cymuned yma. Bellach mae gan Rach ac Al ddau fab arall, Rhys a Joseff. Fel teulu mae nhw’n mwynhau gwneud pitsas a thoes cwcis ar nosweithiau’r Sul.
Jan Bradbury
Mae Jan wedi ymuno â’r tîm arwain a mae ganddi angerdd i glywed gan Dduw. Mae Jan wedi helpu i arwain ein pabell weddi 24 awr, a’n prynhawn Gwrando ar Dduw. Mae hi’n dod â chymaint o deimlad o lawenydd i’n cymuned ac mae ei chael hi ar y tîm arwain yn gymaint o fendith.
Phil Bradbury
Mae Phil yn ddyn creadigol, angerddol, sy'n caru bod yn groesawgar, tra'n herio'r ‘status quo’ i ysgogi gweithredu go iawn i gefnogi eraill. Yn aml fe welwch Phil ar y cwrs golff neu'n gwylio Man Utd (ond nid ydym yn dal hynny yn ei erbyn).
Dylan Rees
Mae Dylan yn berson anhygoel i gael ar ein tîm arweinyddiaeth. Mae ei galon yn fawr dros Ynys Môn a’i chymunedau, yn enwedig ymysg y Cymry Cymraeg. Mae ganddo rôl bwysig yn sicrhau fod Capel Goleudy’n cynnig darpariaeth dwyieithog i’w gwneud yn agored i gymaint o drigolion lleol â phosib.
Staff Capel Goleudy
Rachel Radbourne
Mae Rachel yn gyd-arweinydd tîm Staff Lighthouse gydag Alan. Mae hi’n frwd dros fyw bob dydd i Iesu ar y rheng flaen, gan greu cyfleoedd i rannu cariad Iesu. Mae hi wrth ei bodd yn addysgu ac yn annog mwy o ddisgyblion i fod yn ddisgyblion yng nghymuned Eglwys y Goleudy ac o’i chwmpas. Ar hyn o bryd mae hi'n gweithio 3 diwrnod yr wythnos.Alan Radbourne
Alan yw cyd-arweinydd tîm Staff Lighthouse gyda Rachel. Mae'n goruchwylio llawer o'r gweithrediadau a'r strategaeth ar gyfer rhedeg Eglwys y Goleudy o ddydd i ddydd. Mae’n frwd dros weld mwy o Weithgaredd y Deyrnas yn cael ei ryddhau yn Lighthouse Church a thrwyddi. Mae Alan yn gweithio 2 ddiwrnod yr wythnos i'r eglwys.Elen Jones
Mae Elen yn aelod newydd o'r tim a'n gyfrfol am y gwaith plant a ieuenctid. Mae ganddi galon i weld plant a phobl ifanc yn tyfu yn eu perthynas a Duw. Mae hefyd yn gwneud gwaith cyfathrebu i'r capel. Mai'n gweithio 2.5 diwrnod yr wythnos i'r eglwys.Kirsty Willams
Kirsty yw ein Cydlynydd Allgymorth Cymunedol. Hi sy'n arwain ein prosiectau Gwneud Cinio a Ffagl Fach. Mae ganddi gymaint o angerdd dros Gwneud Cinio, y teuluoedd ar yr ynys, a dod o hyd i ffyrdd creadigol i helpu adeiladu cymuned ar Ynys Môn. Mae Kirsty yn gweithio 1 diwrnod yr wythnos i'r eglwys.Uche Nwagboso Iro
Mae Uche hefyd yn aelod newydd o staff Capel Goeludy. Ei rôl yw rheolwr gweithrediadau - sydd yn golygu bod popeth yn cael ei drefnu a'n rhedeg yn llyfn. Mai hefyd yn gweithio 2.5 diwrnod yr wythnos i'r capel. Karen Sadler
Karen yw arweinydd bugeiliol cymuned y Goleudy. Mae hi'n helpu i gefnogi aelodau o'r gymuned a thu hwnt. Mae Karen yn gweithio 1 diwrnod yr wythnos i'r eglwys.