Dwi’n Newydd

Yn gyntaf oll – Croeso!

Rydyn ni wrth ein bodd eich bod wedi dod o hyd inni a’n gobeithio y cawn gysylltu ymhellach rhyw ddydd.

Sut bynnag y cawsoch chi hyd i Gapel Goleudy, Ynys Môn – a beth bynnag y cewch chi allan o’r ymweliad – rydyn ni am ichi wybod eich bod yn werthfawr, eich bod yn cael eich caru a bod gobaith i’w gael yn y byd hwn, hyd yn oed yn ystod yr amserau gwallgof, ansicr presennol!

Os ydych chi’n dal i ddarllen... gwych! Gadwech i ni ddangos rhai o’r ffyrdd gorau i archwilio mwy am Gapel Goleudy a sut mae modd ichi ddechrau profi dyfroedd ffydd a’r boi Iesu ‘ma rydyn ni wrth ein boddau’n siarad amdano.

Lawrlwytho: Llyfryn Gwybodaeth Capel Goleudy

Cwrs 11 wythnos sy'n creu gofod, ar-lein neu'n bersonol, lle gall pobl ddod â'u ffrindiau am sgwrs am ffydd, bywyd a Duw.
Rydyn ni'n ceisio rhedeg Alffa cwpl o weithiau'r flwyddyn.
Cysylltwch i ddarganfod pryd mae’r Cwrs Alffa nesaf yn dechrau.

Cwrs Alpha

Cofrestrwch Alpha

Little beacons yw ein grŵp babanod a phlant bach sy'n rhedeg bob prynhawn Mawrth yng Nghanolfan Esceifiog, Gaerwen. Mae'r grŵp yn ffordd wych o ddod i adnabod rhieni neu warchodwyr eraill yn yr ardal, a gadael i'n plant hyfryd i gyd chwarae gyda'i gilydd! Am fwy o wybodaeth ewch i dudalen Pelydra Bach!

Pelydra Bach

Pelydra Bach

Ar hyn o bryd rydym yn cyfarfod yng Neuadd y Dref, Llangefni bob dydd Sul am 10.30am. Mae’n bosib cael gafael ar ein sgyrsiau o’r cyfarfodydd ar YouTube. Ymwelwch â'r Dudalen Gwasanaethau Dydd Sul i ddarganfod mwy!

Cynulliadau Dydd Sul

Cynulliadau Dydd Sul

Rydyn ni'n cynnal pum grŵp bach canol wythnos, sy'n cyfarfod ar ddiwrnodau gwahanol ledled yr ynys. Mae’r grwpiau hyn yn le gwych i ddod i adnabod pobl yn well ac i ddysgu mwy am y Beibl gyda’n gilydd. Am fwy o wybodaeth am amseroedd a lleoedd ewch i'r dudalen Grwpiau Bach.

Grwpiau Bach

Grwpiau Bach