Croeso!
Rydym yn Gapel Cristnogol wedi ei sefydlu ar Ynys Môn, sy'n ceisio dilyn dysgeidiaeth Iesu Grist, rhannu bywyd gyda'n gilydd a gwasanaethu cymunedau ein ynys.
Rhythm Misol Newydd
Rydym yn cychwyn rhythm newydd fel eglwys. Bob wythnos mi fydd rhywbeth gwahanol ymlaen - mi fydd hysbyseb ar gyfer y misoedd pan fydd 5 dydd Sul mewn mis fel bo chi’n methu dim.
Wythnos 1 - Cyfarfod Pob oed
Wythnos 2 - Cyfarfod ac Ysgol Sul
Wythnos 3 - Cyfarfod ac Ysgol Sul
Wythnos 4 - Sul Grwp Bach
Ewch i’r dudalen Cyfarfod Dydd Sul i ddarganfod mwy o wybodaeth.
Sul Grwp Bach!
Mae Dydd Sul yma, yr 24ain yn Sul Grŵp Bach - sydd yn golygu na fydd cyfarfod wythnos yma.
Mae Codi Mawl ymlaen yn y min nos, yn cael ei gynnal gan Gapel Goleudy. Mae rhain yn nosweithiau o gapeli lleol yn ymgynnull efo’i gilydd i addoli efo'i gilydd. Mae rhain yn cael eu cynnal yn y Gymraeg ond mae cyfieithiad ar gael yn aml.
Lluniaeth o 6:30yh ymlaen, cychwyn am 7yh.
Cyfarfod Bedyddio!
Ar yr 31ain o fis Mai mi fydden ni’n ymgynnull ar Draeth Newry er mwyn bedyddio!
Cyfarfod am 10yb ar Draeth Newry a parcio ym Maes Parcio Traeth Newry.
Lleoliad y bedydd:
53°19'00.6"N 4°38'06.2"W - Google Maps
Mae lle i barcio ar hyd y ffordd neu gallwch chi ddefnyddio’r maes parcio - defnyddiwch y linc isod.
Maes Parcio Traeth Newry - Google Maps
Ar ôl bedyddio mi fydden ni’n mynd i Barc Gwledig Morglawdd Caergybi er mwyn cael mwy o amser efo’n gilydd - be am ddod a phicnic i gael cinio efo teulu capel?
Breakwater Country Park - Google Maps
Dydd Sul efo Goleudy
Cyfarfodydd Dydd Sul
Mae dydd Sul yn wych! Cyfle i ymgynnull a’n gilydd. Cychwyn am 10.30yb yng Neuadd y Dref Llangefni, allwch hefyd ddal i fyny drwy wrando ar YouTube.
Ysgol Sul
Mae gennym ni dri grŵp plant yn ystod y cyfarfod ar y Ddydd Sul; Sparcs, Tanio a Fflam.
Straeon Fydd Môn
Cyfres o ffilmiau byr o bobl bob dydd yn byw bywydau llawn gobaith ers dod o hyd i Iesu.
Diweddaraf
Grwpiau Bach
Mae grwpiau bach yn lleoedd i gael eu hadnabod, i dyfu ac i gael eu gwreiddio! Maent yn digwydd mewn gwahanol fannau ac amseroedd yn ystod yr wythnos.
Pelydra Bach
Rydym yn cynnal grŵp Babanod a Phlant Bach ar brynhawn Mawrth yn Gaerwen. Mae'n ffordd wych o gwrdd â rhieni a gwarcheidwaid eraill yn yr ardal.
Clwb Cinio
Mae Clwb Cinio yn brosiect rydyn ni'n ei redeg yn ystod gwyliau'r ysgol, darparu prydau bwyd a gweithgareddau i deuluoedd.
YouTube Goleudy
Dal i fyny ar ein sgyrsiau Cyfarfod y Sul, gwrando ar restrau chwarae addoli a chael cipolwg ar fywyd yn y gymuned.